Hanes Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd CymruFfurfiwyd yr elusen yn wreiddiol ym 1978 er mwyn sefydlu Canolfan Feddygol Gogledd Cymru, sef ysbyty preifat yn Llandudno a oedd ar flaen y gad yn natblygiad gofal iechyd preifat yn y Deyrnas Unedig. Ym 1985, gwnaed estyniad i safle Canolfan Feddygol Gogledd Cymru i wneud lle i Gynllun Datblygu Tai Gwarchod; unwaith eto, menter arloesol. Ym 1987, penderfynodd Bwrdd y Llywodraethwyr werthu Canolfan Feddygol Gogledd Cymru a sefydlwyd Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru. Llwyddiannau Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd CymruEr 1987, mae Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru wedi bod yn rhagweithiol mewn sawl menter: - O 1992 i 2001 rydym wedi darparu cefnogaeth gwasanaethau gweinyddol a ariannol i CAIS, yr Asiantaeth Cyffuriau ac Alcohol.
- Ym 1996, roeddem yn rhan o'r tîm a sefydlodd Cyfleoedd. Sefydlwyd y cynllun hwn gydag arian gan y Swyddfa Gymreig er mwyn darparu gwasanaeth dydd arbenigol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn y gymuned.
- Roeddem hefyd yn rhan o'r cynllun i sefydlu Canolfan Adnoddau Gogledd Cymru ar gyfer Pobl Anabl yn Ysbyty Glan Clwyd.
- Ym 1997, am gyfnod o bymtheg mis, fe weithredom fel Gydlynwyr Fforwm Cyffuriau ac Alcohol Gogledd Cymru, un o bum corff cyffelyb a sefydlwyd gan y Swyddfa Gymreig yng Nghymru. Yn ystod ein daliadaeth, roeddem yn gyfrifol am drefnu Cynhadledd Flynyddol Gyntaf Fforwm Cyffuriau ac Alcohol Gogledd Cymru. Dyma'r siaradwyr gwadd a ddaeth i'r digwyddiad ? Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru bryd hynny, Syr Win Griffiths, A.S., Cydlynydd y DU yn Erbyn Cyffuriau, Mr Keith Hellawell, a'r Athro Carlo di Clemente, Athro a Chadeirydd yr Adran Seicoleg, Prifysgol Maryland, Baltimore, a chafwyd sawl cyflwyniad gan aelodau o'r chwe Thîm Gweithredu Lleol yng Ngogledd Cymru.
- Ers sefydlu'r Ymddiriedolaeth, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â dwy hosbis er mwyn sefydlu a datblygu gofal hosbis yng Ngogledd Cymru, ac i hwyluso triniaeth cleifion mewnol ar gyfer cyn-aelodau o'r lluoedd arfog ac sy'n dioddef gan anhwylder ar ôl straen trawmatig.
- Rydym yn dal i helpu nifer o gymdeithasau meddygol Cymru, yn ogystal â changhennau lleol o Gymdeithas Clefyd Siwgr Prydain a'r Grwp Cefnogi Epilepsi yn Ysbyty Gwynedd.
- Rydym wedi helpu grwp o ymarferwyr meddygol lleol o Ogledd Cymru i ymweld â Nepal er mwyn sefydlu rhaglenni rheoli trawma sydd wedi eu llunio'n benodol i gwrdd â'r anghenion a'r cyfleusterau lleol.
- Rydym wedi gweinyddu Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ysbytai Cymru oedd yn trefnu Ymweliadau ar y Cyd rhwng Ysbytai yng Nghymru ar ran Cyngor Coleg Brenhinol Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, mewn cydweithrediad â'r Colegau Brenhinol arbenigol.
- Rydym wedi darparu cefnogaeth weinyddol i Cyfadran Gogledd Cymru Coleg Brenhinol Meddygon Teulu, yn Nhy Tyldesley.
|