Hafan Wen Uned Fewnol ar gyfer Trin a Diwenwyno Cleifion
Mae gwasanaeth yr uned fewnol yn cael ei rheoli gan CAIS. Datblygwyd rhaglenni Diwenwyno ac Adfer Hafan Wen ar sail arferion da cyfredol y DU a UDA ac maent wedi'u seilio ar ddadansoddiad gweithredol o ymddygiad pobl sy'n cymryd cyffuriau ac alcohol. Mae'r rhaglenni'n ystyried yn fanwl beth yw anghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol y claf ac maent yn anelu tuag at ddatblygu ac atgyfnerthu ysgogiad y claf er mwyn cynnal newid i baratoi'r claf yn ddigonol at fyw heb sylweddau. Mae Hafan Wen yn anelu at helpu unigolion i allu ymatal rhag defnyddio sylweddau a hynny mewn amgylchedd cyfforddus, dan ofal staff nyrsio a staff meddygol hynod o gymwys a phrofiadol, a than arweiniad Seiciatrydd Ymgynghorol. |
An English Language version of this page is available here.
Mrs. Glenys Pardanjac
Gweinyddwraig
Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru
Tŷ Tyldesley
Ffordd Clarence
Llandudno LL30 1TW
Ffôn: 01492 871477
Ffacs: 01492 871288
e-bost: glenys@nwmt.co.uk

