Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru & Ty Tyldesley

O'i chanolfan yn Llandudno, mae'r Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru yn gweithio ledled Cymru a thu hwnt. Prif weithgareddau'r elusen yw darparu gwasanaethau gweinyddol i mudiadau yn y maes o addysg meddygol a ymchwil, ac i cyrff eraill sydd a gweithgareddau elusennol eraill sy'n debyg i'n rhai ni. Mewn partneriaeth gyda'r Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru, mae'r Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru yn darparu Hafan Wen, uned trin a diwenwyno bwrpasol ar gyfer cleifion mewnol yn Wrecsam.

Investors in people

Mae Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru yn i ddweud ei fod wedi derbyn y gwobr Buddsoddwyr Mewn Pobl. Mae'r tîm bychan gyda phrofiad helaeth o'r sector meddygol, yn meddiannu y ddealltwriaeth o'r sensitifrwydd sy'n ymwneud â'r gwaith, yn ogystal a'r hyblygrwydd i fod yn arloesol gyda chynlluniau newydd a helpu mudiadau i ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol.


Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru :-

  • Gweithio mewn partneriaeth â Chyfadran Feddygol Prifysgol Lerpwl er mwyn hwyluso'r broses o leoli israddedigion meddygol, sydd yn eu pumed flwyddyn, gydag un ar ddeg o Feddygon Teulu lleol. Sefydlwyd ystafell addysgu a dysgu, gyda chyfleusterau mynediad at y rhyngrwyd a chyswllt electronig â Lerpwl.
  • Darparu Hafan Wen, Uned Trin a Diwenwyno bwrpasol ar gyfer Cleifion Mewnol yn Wrecsam ar gyfer Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru.
  • Rheoli Cymorth Meddygol Gogledd Cymru i Tamil Nadu, elusen sydd yn cefnogi y Ymddiriedolaeth Pentref Tamil Nadu, elusen Indiaidd sydd yn darparu iechyd, glendid, addysg a chyfleusterau datblygu plant yn nhalaith de ddwyreiniol India, Tamil Nadu. Yn ystod 1999, dyfarnwyd grant rhyngwladol i'r Cymorth Meddygol Gogledd Cymru i Tamil Nadu gan y Cronfa Cymunedol i'r Ymddiriedolaeth Pentref Tamil Nadu i darparu Canolfan Datblygu Plant.
  • Yn gweinyddu Cwrs Addysgol Modwlar Ôl-radd o fewn y drefn Datblygiad Proffesiynol Parhaus i Feddygon Teulu yn Grwp Iechyd Lleol Conwy.
  • Rhyngweithio mewn sawl ffordd gydag asiantaethau a mudiadau ym maes gofal iechyd, yn enwedig Meddygon Teulu, ac mae'n helpu llawer o gyrff lleol a chenedlaethol eraill mewn llawer o wahanol ffyrdd.  

Tyldesley House board room

Mae Ty Tyldesley yn adeilad swyddfeydd modern yng Nghraig-y-Don, tua milltir o dref glan y môr Llandudno.

Gellir cynnal digwyddiadau ar gyfer hyd at 30 person yn yr Ystafell Seminar boblogaidd, ac ar gyfer hyd at

10 person yn yr ystafell bwrdd. Mae mynediad anabl, a gallwn drefnu bwyd.

Rhestr o'r Prisiau

Llogi'r Ystafell Seminar Hanner Diwrnod - £40.00 Diwrnod Llawn - £70.00
Llogi Swyddfa Hanner Diwrnod - £30.00 Diwrnod Llawn - £60.00
Llogi Taflunydd dros Ysgwydd a Sgrîn £20.00 Diwrnod
Te/coffi a dwr £1.00 y pen
Fel yr uchod gyda bisgedi £1.10 y pen
Bwffes Prisiau ar gael
Cymorth Ysgrifenyddol / Ysgrifennu Cofnodion Prisiau ar gael

 

An English Language version of this page is available here.

Manylion Cyswllt

Mrs. Glenys Pardanjac
Gweinyddwraig
Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru
Tŷ Tyldesley
Ffordd Clarence
Llandudno LL30 1TW

Ffôn: 01492 871477
Ffacs: 01492 871288
e-bost: glenys@nwmt.co.uk

Llandudno 2

Llandudno 1