Cymorth Meddygol Gogledd Cymru i Tamil Nadu

Ym mis Mai 1989, lansiwyd Cymorth Meddygol Gogledd Cymru i Tamil Nadu fel elusen gofrestredig, dan gadeiryddiaeth Archesgob Cymru bryd hynny, sef Y Parchedicaf Alwyn Rice-Jones, i sefydlu clinig iechyd sylfaenol a rhoi cymorth meddygol ym mhentrefi Tamil Nadu, yn Ne Ddwyrain India.

Dilynwch cyswllt hwn i wefan Cymorth Meddygol Gogledd Cymru i Tamil Nadu >>.

Sefydlwyd y clinigau cyntaf ym mis Chwefror 1990 yn Irumaram, ardal hollol ddifreintiedig sydd tua 20 cilomedr o Kancheepuram. Ar ôl hyn, ym 1991, sefydlwyd clinig arall ym mhentref cyfagos Adavapakkam.

Yn yr un flwyddyn, adeiladwyd chwe thoiled trwytholchi ar bydewau yn Irumaram a chloddiwyd ffynnon yn y ddaear er mwyn darparu dwr glân i'r pentrefi. Cyfrannodd Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru gerbyd tuag at yr achos, er mwyn sefydlu clinig symudol yn y pentrefi cyfagos.

Ym 1990, ffurfiwyd Cyfeillion Cymorth Meddygol Gogledd Cymru i Tamil Nadu. Maent wedi codi proffil yr elusen yn ogystal â chodi arian sydd wir ei angen, drwy gynnal digwyddiadau codi arian amrywiol ac arloesol ym mhob cwr o Ogledd Cymru. Ym 1992, adeiladwyd Canolfan Gymunedol yn Irumaram drwy ddefnyddio arian a godwyd yng Ngogledd Cymru, ac aeth rhai o staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Dinbych i ymweld â'r pentref er mwyn cychwyn ar y gwaith o adeiladu'r ganolfan. Hefyd, ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Pentref Tamil Nadu yn 1992. Ym 1993 daethpwyd o hyd i adeilad arall yn Adavapakkam er mwyn rhedeg clinig meddygol a chanolfan hyfforddi. Ym 1994, dechreuodd yr Ysgol Iechyd a Gofal yng Ngholeg Llandrillo ar eu hymweliadau rheolaidd â'r pentrefi er mwyn sefydlu rhaglen addysg iechyd.

Ym 1993 daethpwyd o hyd i adeilad arall yn Adavapakkam er mwyn rhedeg clinig meddygol a chanolfan hyfforddi. Ym 1994, dechreuodd yr Ysgol Iechyd a Gofal yng Ngholeg Llandrillo ar eu hymweliadau rheolaidd â'r pentrefi er mwyn sefydlu rhaglen addysg iechyd. Ym 1995, sefydlwyd sawl meithrinfa a chlinigau addysg sylfaenol ac addysg iechyd. Yn ystod 1996/97 cododd Dosbarth 18 Inner Wheel fwy na £9,000 ar gyfer adeiladu Canolfan Datblygu Plant bwrpasol, i'w hadeiladu yn agos at y Ganolfan Gymunedol yn Irumaram. 

Ymgorfforir pob agwedd o waith datblygu plant drwy gyfrwng dulliau dysgu strwythurol, gan gynnwys:-

  • Dysgu trwy chwarae
  • Datblygu'n gorfforo
  • Cyfathrebu
  • Helpu eich hun a Chyfrifoldeb
  • Dychymyg a Dawn Greadigol
  • Deall syniadau a'r byd o'u cwmpas 

Cyflwynwyd cais i Fwrdd Elusennau'r Y Gronfa Gymunedol am arian offer a chostau cynnal am bum mlynedd a dyfarnwyd grant o £67,201 i'r elusen ym mis Mehefin 1999.

Agorwyd y Ganolfan Datblygu Plant yn swyddogol ar 2il Rhagfyr 1999 - erbyn hyn mae ganddi'r holl staff a'r offer angenrheidiol a gall dderbyn plant rhwng 2 a 5 oed.

Dyfeisiwyd maes llafur cynhwysfawr, yn seiliedig ar ddysgu trwy chwarae, ac fe gynhelir gweithdai rheolaidd ar hyfforddiant gofal plant i staff, rhieni a gwirfoddolwyr.

O fis Tachwedd 2001 ymlaen, bydd Gwirfoddolwr VSO mewn Gofal ac Addysg Plentyndod Cynnar yn cael ei leoli gyda'r prosiect am 12 mis.

Adeiladwyd Parc Thema Gwyddoniaeth gerllaw'r Ganolfan Datblygu Plant, gyda rhan o grant gan y Gronfa Gymunedol ac mae wedi profi i fod yn atyniad poblogaidd dros ben i'r plant, yn enwedig y pwll nofio.

Ar wahân i'n gwaith o fewn y Ganolfan Datblygu Plant, mae nifer o gynlluniau eraill hefyd wedi eu cyflwyno:-

  • Grwpiau hunan gymorth
  • Hyfforddiant diwylliannol a chrefftau
  • Hyfforddiant gwaith teiliwr
  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth gymunedol

Mae clinigau iechyd yn parhau i gael eu cynnal bob wythnos yn Irumaram ac Adavapakkam.  Mae?r rhain yn cynnwys:-

  • Rhaglenni deintyddol
  • Rhaglenni ymwybyddiaeth am afiechydon STD/HIV/AIDS
  • Sesiynau ymwybyddiaeth polio

Os ydych am wneud rhodd, pa fychan bynnag, neu am ymuno â Chyfeillion Cymorth Meddygol Gogledd Cymru i Tamil Nadu, cofiwch gysylltu gyda ni.  Byddem yn falch o anfon ffurflen Cymorth Rhodd atoch neu gallwch glicio?r cyswllt hwn i dderbyn copi o?r ffurflen fel y gallwch ei phrintio eich hun.  Os ydych yn drethdalwr yn y Deyrnas Unedig, mae Cymorth Rhodd yn galluogi pobl i roi unrhyw swm, naill ai unwaith neu'n rheolaidd, ac mae'r elusen yn elwa o swm y dreth a fyddai'n cael ei thalu ar y rhodd, a hynny ar ben gwerth y rhodd.  Gobeithiwn glywed gennych yn fuan.

 

An English Language version of this page is available here.

Manylion Cyswllt

Mrs. Glenys Pardanjac
Gweinyddwraig
Ymddiriedolaeth Feddygol Gogledd Cymru
Tŷ Tyldesley
Ffordd Clarence
Llandudno LL30 1TW

Ffôn: 01492 871477
Ffacs: 01492 871288
e-bost: glenys@nwmt.co.uk

Llandudno 2

Llandudno 1